Cyflwynwyd yr ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Gwella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl
This response was submitted to the Health and Social Care Committee consultation on Improving access to support for unpaid carers.
UC04: Ymateb gan: Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) | Response from: Wales Council for Voluntary Action (WCVA)
__________________________________________________________________________________________
Gwella
mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl
YMATEB GAN CGGC
1)
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC)
yw’r mudiad aelodaeth cenedlaethol ar gyfer y
sector gwirfoddol yng Nghymru. Ein diben yw galluogi mudiadau
gwirfoddol i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd. Nod
Prosiect Iechyd a Gofal CGGC yw creu cysylltiad gwell rhwng y sector
gwirfoddol a’r system iechyd a gofal cymdeithasol.
2)
Diolchwn i’r Pwyllgor am y cyfle i ymateb
i’r ymgynghoriad ar wella mynediad at gymorth i ofalwyr
di-dâl.
3)
Credwn fod y mudiadau hynny sy’n
gweithio’n uniongyrchol gyda gofalwyr mewn sefyllfa well na
ninnau i ymateb i’r rhan fwyaf o’r materion y
mae’r ymgynghoriad hwn yn dymuno eu trafod. Fodd bynnag,
hoffem wneud rhai pwyntiau ar un maes a amlygir gan yr
ymgynghoriad: rôl Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol wrth
ddarparu cymorth i ofalwyr di-dâl, ac effeithiolrwydd
ymarferion comisiynu cyfredol ar gyfer
gwasanaethau.
4)
Mae’r
Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd
Sector, a ddiwygiwyd yn ddiweddar, yn nodi egwyddorion
sy’n dangos sut dylai cyllid a gyflwynir gan Lywodraeth
Cymru, a chyllid Llywodraeth Cymru a gyflwynir gan gyrff eraill yn
y sector cyhoeddus, gyllido’r sector gwirfoddol mewn modd mwy
hirdymor, cynaliadwy ac effeithiol.
5) Wrth gomisiynu gwasanaethau sy’n cefnogi gofalwyr di-dâl, mae’n hanfodol bod comisiynwyr yn dilyn pum egwyddor y Cod Ymarfer er mwyn cyflawni’r canlyniadau gorau posibl i’r rheini sy’n defnyddio’r gwasanaethau hynny. Yr egwyddorion hyn yw:
· Sgyrsiau cynnar a pharhaus – sicrhau ymgysylltiad ystyrlon a rheolaidd rhwng cyllidwyr a chyrff y sector gwirfoddol
· Gwerthfawrogi a chanlyniadau – sicrhau bod penderfyniadau cyllido yn seiliedig ar ystyriaethau eang o ganlyniadau cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol a gwerth economaidd.
· Dulliau cyllido priodol – sicrhau bod cyllidwyr yn ystyried yr holl opsiynau ac yn dewis y dull(iau) priodol i gyflawni’r canlyniadau cytunedig yn effeithiol.
· Hyblygrwydd – sicrhau y gall y cyllidwr a’r mudiadau a gyllidir awgrymu addasiadau i gytundebau a chyflenwi os oes tystiolaeth o amgylchiadau i gefnogi’r angen.
·
Tegwch – sicrhau mynediad teg i bawb, gan greu
amgylchedd cyllido cymesur, sy’n cael gwared â
rhwystrau i gynhwysiant ac yn meithrin
cefnogaeth.
6) Dylai Comisiynwyr hefyd lynu wrth y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth. Nod y fframwaith hwn yw lleihau cymhlethdod mewn comisiynu, hwyluso cysondeb mewn arferion comisiynu ac ail-gydbwyso comisiynu i ganolbwyntio ar ansawdd a chanlyniadau.
7) Mae’r fframwaith hwn yn mynnu bod comisiynwyr yn ymwreiddio’r saith egwyddor yn eu harferion. Yr egwyddorion hyn yw:
· Cydberthnasau gofalgar, tosturiol a theg a ddaw yn sgil cyd-gynhyrchu cynhwysol.
· Arweinyddiaeth effeithiol, gynhwysol, tryloyw a gonest.
· Cydweithio trwy rannu risgiau, adnoddau ac asedau.
· Ystyried gwerth drwy lygaid gofal a chymorth diogel, o ansawdd uchel sy’n cyflawni canlyniadau o bwys sy’n gwella gwerth cymdeithasol.
· Gofal a chymorth cynaliadwy wedi’u hadeiladu ar waith teg a phrisio teg.
· Cynllunio ar gyfer anghenion presennol a chenedlaethau’r dyfodol.
·
Dangos tystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio
drwy storïau a ffigurau.
8) Argymhellwn:
· y dylid glynu wrth y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth er mwyn diwallu anghenion y boblogaeth a chyflawni canlyniadau gwell i ofalwyr di-dâl, a
· bod y Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod gwasanaethau a ddarperir gan y sector gwirfoddol yn gynaliadwy ac yn diwallu anghenion hirdymor gofalwyr di-dâl
David Cook
Swyddog Prosiect Iechyd a Gofal Cymdeithasol CGGC
Awst 2025